top of page

Râs Gyfnewid Cestyll Cymru

Mae Rhedwyr Eryri yn creu tîm ar gyfer Râs Gyfnewid Castyll Cymru dros y penwythnos 6 a 7 o  Fehefin.

Rydym yn ceisio gwneud hyn yn “benwythnos i ffwrdd” fel tîm*. 

'Da ni'n casglu diddordeb cyn i ni anfon ein cais**, felly hoffem wybod os oes digon o ddiddordeb gennych fel aelodau.

Be 'da ni'n cynnig:

  • PROFIAD AM DDIM i’n haelodau! Bydd y clwb yn talu’ch ffi cofrestru a’ch costau teithio ar gyfer gwirfoddolwyr.

  • Bws mini o bob rhan o’r cwrs i ddilyn y rhedwyr

  • Cludo i / o’r man cychwyn a’r man gorffen ar gyfer pob cam. 

  • Gwersylla am ddim yn y Drenewydd ar ddiwedd diwrnod 1 (yn bosibl). 

  • Bws nôl i’r Gogledd ar ddiwedd diwrnod 2. 

​'Da ni'n edrych am:

  • Rhedwyr*** ar gyfer pob cam (20 cam dros 2 ddydd) 

  • 2 rhedwyr wrth gefn rhag ofn bod anafiadau neu newid amgylchiadau munud olaf

  • Gwirfoddolwyr i fod yn marshals – i fod ar bwynt yn y cwrs yn y Gogledd 

  • Gyrrwr bws mini! 

  • Gyrrwr ceir gwirfoddol ar y ddau ddiwrnod i helpu gyda’r logisteg (rhoddir ad-daliad betrol!) 

*Os na allwch / eisiau cymryd rhan drwy’r penwythnos cyfan — croeso i chi gymryd rhan mewn dim ond un rhan o’r ras!

**Rhaid i bob clwb gwneud cais - byddwn yn gwybod mis Mai os ydym yn cael ein derbyn

*** Rhedwyr dros 18 gallu gwneud unrhyw rhan. Rhedwyr 16 a 17 oed gallu rhedeg rhan o dan 16KM

© 2023 gan Ian Edwards

  • Facebook
  • Twitter
bottom of page