Wel dyna ni, tymor arall o'r Borders League wedi dod i ben. Er siomedig oedd y niferoedd eto flwyddyn yma, mae'n falch iawn gweld aelodau y clwb yn gorffen y tymor efo rywbeth i ddathlu.
Yn ei categoriau oedran gafodd Mike Snell a Don Williams 1af, Arwel Lewis a Anna Drinkwater 2il a aeth 3ydd yn y V35 categori i Gemma Brown - Hefyd, gafodd dynion Eryri 'Most Improved'!
Er y canlyniadau uniongyrchol cryf - mae'n dda atgoffa na cynghrair clwbiau yw hwn. Mi fysa hi'n gret os fysa ni medru gael niferoedd fawr allan ar gyfer rasus 2023/24 ac llwyddo fel clwb.
Mae'r rasus am ddim ac yn llawn talent! Mae'n cyfle gret i profi eich hynna'n yn erbyn y rhedwyr gorau yn Gogledd Cymru a Gogledd Gorllewin Lloegr. Efo'r talent sydd yn Eryri, does DIM rheswm fedrwn ni ddim cystadlu gyda'r goreuon!
Comments