Mae'r ras olaf yn y cyfres yn digwydd 11/02/23 yn Oswestry. Plis cofiwch eich rhifau a pinau! Mae rhifau newydd yn costio £1.
Rhedwyr Ifanc –
Fydd angen i chi gwneud eich ffordd eich hyn yna. Mi Helen yna gyda'r gazebo am tua 10yb a mi fydd y ras gyntaf yn cychwyn am 10.30yb. Mi fydd medalau yn gael ei roi allan arol y ras Genethod o dan 11. Os ydych wedi cymeryd rhan mewn 4 ras mi fydda chi yn derbyn medal!
Oedolion -
Mae bws 17 sedd wedi ei trefnu a mae Alistair Brown wedi cytuno ei ddreifio. Mi fydd on gadael Cyffordd Llandudno o'r Conwy Business Centre carpark (postcode LL31 9XX), sydd tu ol i'r “Cineworld/McDonalds/KFC”.
Gadael am 10.30yb, ac yn dod nol erbyn tua 6.30yh ar ol y cyflwyniadau orffen.
Os hoffwch chi gael sedd ar y bws mi fydd angen i chi gysylltu gyda Helen Blair. Mae'n bosib gael eich pigo fyny ar y ffordd ond mi fydd angen i chi holi Helen i weld os fydd on bosib.
Gyda'r clwb yn gwneud yn dda iawn blwyddyn yma mae'n debygol iawn mi fydd ni yn dod a chydig o 'fling' adra gyda ni felly mi fysa hi'n gret gael criw mawr allan ar gyfer y ras ola!
Comentarios