Croeso Plodders a Datblygu Rhaglen Hyfforddi'r Clwb / Welcome to the Plodders and Developing our Training Programme
- ydyffryn
- Apr 1
- 2 min read
Updated: Apr 2
Scroll down for English
Balch o gyhoeddi bod Poblado Plodders yn awr yn rhan swyddogol o rhaglen Hyfforddi wythnosol o Rhedwr Eryri! Dwi'n gwybod y byddwch chi i gyd yn rhoi croeso cynnes iddyn nhw i gyd ac yn ymuno yn y sesiynau os nad ydych wedi gwnued eto.
Wrth groesawu'r Plodders rydym nawr gyda 4 sesiwn hyfforddi gwahanol yr wythnos a Sesiynau Arbennig chwarterol ar gael o chi ein aelodau! Pob un wedi eu harwain gan hyfforddwyr ac arweinwyr cymwysedig a lot o gyfleoedd i ddatblygu a rhedeg mewn llefydd newydd gyda ffrindiau o'r clwb.
Hyfforddiant Nos Lun
Plodders Nos Fawrth
Ieuenctid Nos Fawrth
Elltydd Nos Iau*
Plodders Bore Sadwrn
Rhediad Hir a Sesiynau Arbennig dydd Sul
Mwy o wybodaeth yma: https://www.eryriharriers.org.uk/cy/training
Rydym o hyd yn datblygu ein rhaglen i gefnogi chi - ein aelodau. Mae hyn yn cynnwys
sesiynau arbenigol - y cyntaf ar y 17 o Fai datblygu
cefnogaeth i dimau rasio
Cefnogaeth pellach i ddatblygu'r "ceffylau blaen" ymhob oedran
Hyn i gyd er mwyn rhoi yn ol i chi fel aelodau. Edrychwch allan am fwy o wybodaeth cyn hir.
Hefyd - os nad ydych ar ein cyfryngau cymdeithsaol, mae modd i chi weld yr holl wybodaeth pwysig sydd yn cael eu postio ar ein tudalen newyddion (rydym yn awr yn adnewyddu hwn yn rheolaidd) We are proud to announce that Poblado Plodders are now officially part of the weekly training program of Eryri Harriers! I know you will all welcome them with open arms and join in the sessions if you haven't yet.
Welcoming the Plodders means we now have 4 different training sessions a week and quarterly special sessions available foe you our members! All led by qualified coaches and leaders and lots of opportunities to develop and run in new places with friends from the club.
Monday Night Training
Tuesday Plodders
Tuesday Juniors
Thursday Night Hills*
Saturday Plodders
Sunday Long Run and Special Sessions
More information here: https://www.eryriharriers.org.uk/training
We are still developing our program to support you - our members. This includes
special sessions - the first on the 17th of May
developing support for racing teams
Further support to our 'wild horses at the front' in each ge group
This is all to give back to you as members. Look out for more information soon.
Also - if you are not on our social media platforms, you can see all the important information that is posted on our news page (we are now updating this regularly)




Comments