Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd Rhyng-Sirol Prydain - a mwy o newyddion /// British Inter-Counties and other news!
- ydyffryn
- May 6
- 4 min read
Scroll down for English
Pencampwriaethau Rhedeg Mynydd Rhyng-Sirol Prydain – Sedbergh (3 Mai 2026)
Perfformiad cryf gan ein hathletwyr Gogledd Cymru yn Sedbergh, Cumbria yn y Ras Fynydd Rhyng-Sirol i Hŷn. Roedd perfformiadau gwych gan aelodau ein clwb


Arweiniodd Tom Woods y ffordd gyda gorffeniad rhagorol yn y 3ydd safle
Gorffennodd Sion Edwards yn 49ain
Yn ras y merched, daeth Efa Baines yn 24ain yn gyffredinol ac yn 2il dan 23
Gorffennodd Claire Donnelly yn 50fed, gyda Catrin Donnelly yn 59ain
Da iawn i bawb a gymerodd ran ac i dimau Gogledd Cymru am berfformiad gwych.
Race the Train – Galw Mawr!

Gwerthwyd holl lefydd ras hŷn Race the Train eleni mewn 4 munud anhygoel, gan ddangos pa mor boblogaidd yw’r digwyddiad sefydledig hwn erbyn hyn.
Mae’n parhau i fynd o nerth i nerth fel digwyddiad allweddol yn y calendr rasio.
Cydymdeimlad â’r rhai a fethodd allan – roedd y galw unwaith eto’n eithriadol o uchel. Fodd bynnag, os gallwch helpu ar y noson drwy wirfoddoli neu farshalu, cysylltwch â Mike Blake ar eryri.harriers.races@gmail.com.
Mwy o fanylion: https://www.eryriharriers.org.uk/racethetrain
Diolch yn fawr i TDL am eu cefnogaeth ac am sicrhau bod y broses gofrestru wedi rhedeg yn esmwyth.
Diweddariadau Cymuned y Clwb
Peidiwch ag anghofio gweld y grŵp preifat Facebook am ddiweddariadau pwysig er engrhaifft:
Ras Gyfnewid Cestyll Cymru
Rhannu lifftiau i ddigwyddiadau sydd ar ddod
Dewisiadau timau
Prynu, gwerthu a chyfnewid cit
Newyddion cyffredinol y gymuned
Cyfle Gwirfoddoli – Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu

Rydym yn chwilio am aelodau brwdfrydig i ymuno â thîm y pwyllgor mewn rôl ar y cyd fel Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Chyfathrebu.
Mae hwn yn gyfle gwych i helpu adrodd stori’r clwb ac ymgysylltu ag aelodau ar draws sawl platfform.
Beth sy’n rhan o’r rôl (gallwch wneud un neu fwy o’r rhain ochr yn ochr ag eraill):
Cefnogi cyfathrebu’r clwb ac ymgysylltu ag aelodau
Creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a sianeli traddodiadol• Casglu straeon, canlyniadau a diweddariadau gan aelodau
Rhannu adroddiadau ras, lluniau a fideos
Hyrwyddo digwyddiadau a dathlu llwyddiannau
Dod â syniadau newydd i dyfu ein cymuned ar-lein
Dylech fwynhau defnyddio platfformau fel Facebook, Instagram, Spond a dulliau cyfathrebu eraill.
Diddordeb? Cysylltwch neu siaradwch â Nia Meleri i gael rhagor o wybodaeth. Rhannwch y cyfle hwn i’n helpu i ddod o hyd i’r person cywir 🙌
Atgoffa

Os ydych yn bwriadu cystadlu mewn ras ac eisiau cynrychioli’r clwb fel rhan o dîm, cofiwch y gallwch wneud cais i’r pwyllgor am gefnogaeth, gan gynnwys cymorth gyda ffioedd mynediad.
Diolch yn fawr i bob aelod, gwirfoddolwr a chefnogwr am barhau i wneud Eryri Harriers yn glwb mor gryf a bywiog.
------------------------------------------------------------------------------------------------------------------
British Inter-Counties Mountain Running Championships – Sedbergh (3 May 2026)
A strong showing from our North Wales athletes at Sedbergh, Cumbria in the Senior
Inter-Counties Mountain Race. his team included amazing perfomances form our very own club!
• Tom Woods led the way with an excellent 3rd place finish
• Sion Edwards finished 49th
• In the women’s race, Efa Baines placed 24th overall and 2nd U23
• Claire Donnelly finished 50th, with Catrin Donnelly in 59th
Well done to all involved and to the North Wales teams for a fantastic performance.


________________________________________
Race the Train – Huge Demand!
This year’s Race the Train senior race sold out in an incredible 4 minutes, showing just how popular this long-standing event has become. It continues to go from strength to strength as a key fixture in the racing calendar.

Commiserations to those who missed out – demand was exceptionally high once again, however, if you can help out on the night by volunteering or marshalling please contact Mike Blake on eryri.harriers.races@gmail.com.
More details: https://www.eryriharriers.org.uk/racethetrain
A big diolch to TDL for their support and for ensuring a smooth registration process.
________________________________________
Club Community Updates
Don’t forget to check the private group for important updates regarding:
• Welsh Castles Relay
• Lift sharing to upcoming events
• Buying, selling, and swapping kit
• General community news
________________________________________
Volunteer Opportunity – Social Media & Communications Officer

We’re looking for enthusiastic members to join the committee team in a shared Social Media & Communications Officer role.
This is a great opportunity to help tell the story of our club and engage with members across multiple platforms.
What’s involved (you can do one or more of these alongside others):
• Supporting club communications and member engagement
• Creating content for social media and traditional channels
• Gathering stories, results, and updates from members
• Sharing race reports, photos, and videos
• Promoting events and celebrating achievements
• Bringing fresh ideas to grow our online community
You should enjoy using platforms such as Facebook, Instagram, Spond, and other communication tools.
Interested? Get in touch or speak to Nia Meleri to find out more. Please share this opportunity to help us find the right person 🙌
________________________________________
Reminder

If you’re planning to enter a race and would like to represent the club as part of a team, remember you can apply to the committee for support, including help with entry fees.
________________________________________
Diolch yn fawr to all members, volunteers, and supporters for continuing to make Eryri Harriers such a strong and vibrant club.



Comments