top of page
7.png

Adnewyddu eich aelodaeth

  1.  Cyn 1af Ebrill, mewngofnodwch i'ch proffil Athletau Cymru drwy borth Athletau Cymru i wneud yn yn siwr  bod eich holl fanylion personol a chyswllt yn gywir.





     

  2. Mewngofnodwch efo'ch URN a'ch cyfrinair neu crëwch gyfrif (bydd gan y rhan fwyaf o aelodau gyfrif yn barod). Yr URN yw eich rhif Athletau Cymru, y gellir ei ganfod ar e-byst gan WA neu ei adfer ar y dudalen mewngofnodi.
     

  3. Yn y Porth Athletau Cymru, bydd angen i ch dderbyn cod ymddygiad Athletau Cymru hefyd (os nad ydach chi wedi gwneud hynny yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn barod).
     

  4. Disgwyl e-bost gan Athletau Cymru efo cais am daliad aelodaeth. Dylech dderbyn hwn rhwng 1af a 4ydd Ebrill 2026.Cysylltwch â mi dim ond os nad ydach chi wedi derbyn e-bost erbyn 5ed Ebrill 2026.
     

  5. Ar ôl talu, bydd eich aelodaeth yn ddilys tan 31ain Mawrth 2027.
     

  6. Mae gwybodaeth am fathau a phrisiau aelodaeth ar gael yma:Ymuno | Eryri Harriers

Ystyriaethau pwysig

  1. Nid oes angen i unigolion sydd wedi ymuno â Rhedwyr Eryri fel aelodau newydd sbon rhwng 1af Ionawr a 25ain Mawrth 2026 fynd trwy'r broses hon; mae eich aelodaeth yn ddilys tan 31ain Mawrth 2027 yn barod.

    • Nid oes angen i aelodau anrhydeddus fynd trwy'r broses hon chwaith; byddaf yn trefnu eich aelodaeth i chi.

  2. Gweler y ddolen isod efo’r polisi gwrth-gyffuriau'r DU. Mae angen i bob clwb sy'n gysylltiedig ag Athletau'r DU (gan gynnwys Rhedwyr Eryri) gytuno i gydymffurfio â hyn: https://www.gov.uk/government/consultations/national-anti-doping-policy-consultation/outcome/uk-national-anti-doping-policy-2021

  3. Mae rhagor o wybodaeth am reoliadau gwrth-gyffuriau ar gael ar wefan Athletau Cymru yma:https://www.welshathletics.org/en/page/clean-spor
     

  4. Gweler hefyd ein pecyn aelodaeth newydd ar gyfer 2026 sy'n eich atgoffa o fanteision Aelodaeth Rhedwyr Eryri!

© 2023 gan Ian Edwards

  • Facebook
  • Twitter
bottom of page