top of page

Plodders

Dechreuodd Poblado Plodders fel syniad syml: dod at ein gilydd, symud yn hamddenol, a mwynhau’r tirwedd o’n cwmpas. Mae ein cylch 5km dydd Sadwrn o amgylch Chwarel Dorothea yn Nantlle bellach yn greiddiol i’r grŵp — yn hamddenol, yn llawn sgwrs, ac yn gorffen bob tro hefo coffi bendigedig gan Boblado Coffi. Dim pwysau, dim rasio — dim ond troi fynnu a mwynhau’r milltiroedd gyda’n gilydd.

 

Dros amser, mae’r grŵp wedi tyfu’n gymuned gefnogol o redwyr o bob lefel. Mae rhai’n dod i feithrin hyder, eraill i gadw’n egnïol, ac mae llawer yn dod am y cwmni. Beth bynnag eich cyflymder, mae pawb yn cael ei gefnogi.

 

Mae nosweithiau Mawrth yn cynnig her ychydig yn fwy serth, gyda llwybrau mwy bryniog yn Rhosgadfan, Rhostryfan neu Dinas yn dibynnu ar y tywydd.

 

Mae nhw’n sesiynau y gallwch dyfu tuag atynt yn eich amser eich hun.  A dros y gaeaf, mae ein “Plod ar Daith” misol yn mynd â ni i lwybrau newydd ar draws Gogledd Cymru — ac at y rhwydwaith gwych o gyflenwyr Poblado Coffi ar draws yr ardal.

 

Os ydych newydd gwblhau Couch to 5K neu’n chwilio am grŵp cyfeillgar i’ch ysgogi, mae’r Plodders yma i’ch cefnogi — ar y rhediad ac y tu hwnt — drwy ein grŵp WhatsApp, ein tudalen Strava a’n cymuned sy’n tyfu o hyd ar Instagram.

Lle? Pryd?

Dydd Sadwrn: Nantlle 5km @ Poblado Coffi, Y Barics, 9am,


Nos Fawrth: Rhosgadfan / Dinas, 7pm


Plod on Tour, Lleoliadau gwahanol 


Instagram
Strava

Whatsapp (Aelodau'n unig)

© 2023 gan Ian Edwards

  • Facebook
  • Twitter
bottom of page