top of page

Noson Wobrwyo

Dydd Sul Mawrth 15 2026

Clwb Criced a Bowlio Bethesda

Mae’r noson wobrau flynyddol bob amser yn ein hatgoffa, er bod y clwb yn dathlu nifer o berfformiadau trawiadol, mai gwir gryfder Eryri Harriers yw ein gymuned, ein gwirfoddolwyr, a’r angerdd dros redeg o bob math

PXL_20260315_194453358.MP.jpg

Roedd hi’n noson wych wrth i aelodau, ffrindiau a theuluoedd dod at ein gilydd i ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall i Eryri Harriers. Roedd yr ystafell yn llawn sgwrs a chwerthin wrth i ni sgwrsio am ein llwyddiannau, cydnabod ymroddiad, a dathlu cryfder cymuned y clwb.

Mwynhaodd bwyd gwych an staff y clwb criced, ac roedd cyfle hefyd i gasglu’r cit clwb newydd cyn i’r cyflwyniadau gwobrau ddechrau.

Cawsom ein diddanu gan siaradwr gwadd ysbrydoledig a difyr, David “Jacko” Jackson. Mae ei ddull hyfforddi yn canolbwyntio ar ddatblygu’r ffordd rydych yn anadlu er mwyn cynyddu effeithlonrwydd, lleihau’r teimlad o ymdrech, a gwella rheolaeth ar y system nerfol, ymhlith manteision eraill.

PXL_20260315_181026649.PORTRAIT.jpg

Y Gwobrau

Atheltwr Eithiradol

Tinka Vinks

20260316_184139-COLLAGE.jpg

Cyflwynwyd Gwobr Athletwr Eithriadol i Tinka Vinks, y mae ei chanlyniadau dros y flwyddyn ddiwethaf wedi ei gosod ymhlith prif redwyr mynydd a trail gorau y DU.

 

Ymhlith ei llwyddiannau diweddar mae:

  • 1af merch – Drielandenpunt Trail (UTMB World Series, 23 km)

  • 5ed merch – XTERRA Snowdonia Trail Marathon (50 km)

  • 6ed merch – Ultra-Trail Snowdonia 50K mewn maes rhyngwladol hynod gystadleuol

Enillodd hefyd ras Trail Gaeaf yng Nghoed y Brenin ac mae wedi’i rhestru’n uchel yn safleoedd Cynghrair Cenedlaethol ITRA y DU.

Yn ogystal â’i llwyddiant mewn rasys, mae Tinka yn adnabyddus yn lleol am gefnogi rhedwyr eraill, "pacing" mewn rasys ac annog y rhai o’i chwmpas i gyrraedd eu potensial. Mae hi’n esiampl ysbrydoledig o fewn y clwb ac yn y gymuned redeg ehangach.

Gwobr Ieuenctid

Mae dyfodol y clwb yn edrych yn hynod addawol diolch i frwdfrydedd ac ymrwymiad ein rhedwyr iau.

 

Cyflwynwyd Gwobrau Plant Hŷn Dewi Tomos i Josh Watt a Martha Davies.

 

Mae Josh wedi dangos ymroddiad arbennig drwy fynychu bron bob wythnos gyda agwedd gadarnhaol a phenderfyniad i wella. Mae ei redeg yn parhau i ddatblygu, ac yn fwy diweddar mae wedi dechrau cymryd rôl arweiniol ymhlith y rhedwyr iau drwy annog eraill a helpu pan fo diffyg gwirfoddolwyr. Mae eisoes yn esiampl i’r rhai iau.

 

Mae Martha wedi cael blwyddyn ragorol yn cynrychioli’r clwb a’i hysgol mewn nifer o rasys, gan ennill ei chategori yn aml. Mae ei hagwedd gadarnhaol a’i hangerdd dros redeg yn ei gwneud yn bleser i’w hyfforddi.

 

Cyflwynwyd Gwobrau Iau Mike Blake i Moli Roberts a Seb Perrin-Roberts.

 

Mae Moli yn llawn egni a brwdfrydedd, bob amser yn rhoi ei gorau ac yn dangos penderfyniad i wella. Mae’n cynrychioli’r clwb gyda balchder mewn digwyddiadau chwaraeon eraill ac yn lysgennad gwych i Eryri.

 

Mae Seb yn parhau i greu argraff gyda’i dalent naturiol a’i ymrwymiad. Er ei fod ymhlith y rhedwyr iau, mae’n aml yn ymuno â’r grŵp hŷn, yn adnabod y llwybrau’n dda iawn ac yn dod bob wythnos yn barod i redeg.

 

Diolch enfawr hefyd i’r rhieni sy’n cefnogi’r adran iau ac yn gwneud hyn i gyd yn bosibl

20260316_180706-COLLAGE.jpg

Pencampwyr Rhedeg Ffordd

Unwaith eto eleni, dangosodd pencampwriaethau rhedeg ffordd y clwb gryfder a dyfnder rhedwyr ffordd Eryri.

Pencampwyr eleni oedd:

  1. Ian Edwards

  2. Sam Drinkwater

  3. Gruff Anderson

a

  1. Anna Drinkwater

  2. Margot Saher

  3. Nia Meleri

 

Gwnaeth pob un ohonynt berfformio’n gyson ac yn gryf drwy gydol y tymor ar draws amrywiaeth o rasys ffordd.

 

Cafodd Arwel Lewis gydnabyddiaeth arbennig hefyd yn ystod y noson, ar ôl iddo dderbyn Gwobr Gwasanaeth i Athletau Cymdeithas Athletau Cymru yn ddiweddar.

 

Mae Arwel yn parhau i gystadlu’n rheolaidd ar draws rhedeg lôn, traws gwlad, llwybr a mynydd, tra hefyd yn rhoi cyfraniad enfawr fel gwirfoddolwr. Mae ei waith fel trefnydd rasys, swyddog, aelod pwyllgor ac fel cynrychiolydd o fewn Athletau Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r gamp yng Ngogledd Cymru a thu hwnt.

20260316_180945-COLLAGE.jpg

Traws Gwlad

Cafodd rhedwyr Eryri dymor rhagorol yng Nghynghrair Traws Gwlad Gogledd Cymru a Phencampwriaethau Gogledd Cymru, gan ennill llu o fedalau.

Ymhlith y perfformiadau gorau roedd:

Merched

1af – Gemma Moore
2il – Andrea Rowlands
3ydd – Bryony Shircore

 

Dynion

1af – Anthony Davies
2il – Mike Whyatt
3ydd – Don Williams

 

Cafodd Maggie Oliver gydnabyddiaeth arbennig hefyd ar ôl dominyddu’r categori Merched 75+, tra’n parhau’n aelod ffyddlon a gwerthfawr o’r tîm.

20260316_182613-COLLAGE.jpg

Rhedeg Mynydd

Mae rhedeg mynydd yn parhau’n rhan allweddol o gryfder y clwb, gyda chystadleuaeth gref yn y pencampwriaethau pellter hir a byr.

Pencampwyr Pellter Hir

 

Dynion
1af – Sion Edwards
2il – Adam Harper
3ydd – William Greenwood

 

Merched
1af – Sarah Barnwell
2il – Louise Beetlestone
3ydd – Louise Emery

 

Pencampwyr Pellter Byr

 

Dynion
1af – Tony Hall
2il – Michael Coyne
3ydd – James Harwood

 

Merched
1af – Kasia Osipowicz
2il – Hazel Robbin

20260316_182853-COLLAGE.jpg

Angela Barker Brand Award

Catrin Donnelly

Crëwyd Gwobr Angela Barker Brand i gydnabod Angela Barker, aelod o’r clwb a rhedwraig mynydd frwdfrydig oedd am annog mwy o ferched i gymryd rhan yn y gamp.

Enillydd eleni yw Catrin Donnelly, sydd wedi cael tymor arbennig. Cynrychiolodd Gogledd Cymru ym Mhencampwriaethau Rhyng-Sirol Prydain ym Mhen-y-Ghent, gan orffen 2il dros Ogledd Cymru, a hefyd cystadlodd ym Mhencampwriaethau Rhyng-Ranbarthol Cymru yng Nghilcain, gan orffen 4ydd yn gyffredinol.

 

Yn ogystal, gorffennodd 2il merch yn gyffredinol yn y gyfres nos Fawrth ac enillodd XTERRA Snowdonia Trail Half Marathon.

Screenshot_20260316-183146.png

Gwobr Rory O’Donnell

Tony Davies

Mae Gwobr Rory O’Donnell yn anrhydeddu cof am aelod poblogaidd o’r clwb a oedd yn adnabyddus am ei gyfeillgarwch, talent a’i ysbryd.

Enillydd eleni yw Tony Davies, sydd wedi dangos perfformiadau rhyfeddol dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ar ôl goresgyn heriau iechyd sylweddol, mae Tony wedi dychwelyd i gystadlu gyda chryfder ac ymroddiad anhygoel. Mae’n cynrychioli’r clwb ar draws bron bob disgyblaeth – lôn, traws gwlad, mynydd ac ultra.

Mae wedi sicrhau sawl canlyniad podiwm ac ennill yn ei gategori oedran, gan gynnwys 1af yn ei gategori yn ras 10K Arthur Bebbington, lle bu hefyd yn aelod i’r tîm buddugol.

Mae Tony hefyd wedi cymryd rhan mewn heriau  eithriadol fel Ring of Fire a Backyard Ultra. Yr hyn sy’n gwneud hyn yn fwy rhyfeddol yw ei fod yn cystadlu ar lefel uchel tra’n rhedeg gyda bag stoma, gan ddangos penderfyniad a chryfder ysbrydoledig

20260316_183645-COLLAGE.jpg

Outstanding Contribution Award

Helen Blair

Cyflwynwyd y Wobr Cyfraniad Cyffredinol  i Helen Blair am ei chyfraniad arbennig dros ddegawdau i’r clwb a’r gamp.

Mae Helen wedi bod yn aelod o Eryri ers diwedd y 1980au, gan gynrychioli’r clwb mewn nifer fawr o rasys Borders League a thraws gwlad.

 

Yn ogystal â’i rhedeg ei hun, mae hi wedi cyfranu’n helaeth y tu ôl i’r llenni – fel Ysgrifennydd Traws Gwlad, trefnydd rasys yng Nghynghrair Traws Gwlad Gogledd Cymru yn Nhreborth, ac adolygydd annibynnol cyfrifon ar gyfer sawl sefydliad athletau.

 

Mae hefyd wedi helpu trefnu Ras Fell Tal-y-Fan am dros 20 mlynedd, wedi marsialu mewn nifer o rasys, ac wedi bod yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer mynediad i chwareli Dinorwig ar gyfer ras Pedol Peris.

PXL_20260315_193226524_edited.jpg
PXL_20260315_200142496.MP.jpg

Guest Speaker 


JACKO

Breathworks

Mewn sesiwn hynod ddifyr ac addysgiadol, llwyddodd David “Jacko” Jackson i symleiddio gwyddoniaeth anadlu a rhoi offer ymarferol i wella effeithlonrwydd a chryfhau perfformiad rhedeg.

 

Gyda’i westai arbennig – Dave y sgerbwd – aeth â ni drwy gyfyngiadau ein patrymau anadlu presennol, a dangos sut y gallwn hyfforddi’r system resbiradol ar gyfer rhedeg mwy effeithlon.

Trwy ymarferion anadlu wedi’u hymgorffori yn ein hyfforddiant – gan gynnwys sut i ryddhau’r asennau a datblygu’r diaffram – dysgon ni’r hanfodion o anadlu’n fwy effeithlon, fel rhedwyr elît.

Manteisiodd llawer o’n haelodau ar y cyfle i brynu ei lyfr newydd a chael sgwrs bellach ar ddiwedd y noson.

 

Edrych Ymlaen

Bydd y clwb yn cynnal nifer o sesiynau arbenigol gyda Jacko yn ystod y misoedd nesaf, a bydd y rhain ar gael yn rhad ac am ddim i aelodau.

 

Cadwch lygad am fwy o wybodaeth drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol yn fuan!

20260316_185153-COLLAGE.jpg

DIOLCH

Hoffem ddiolch o galon i bawb a helpodd i drefnu’r noson arbennig hon. O’r gwirfoddolwyr a’r trefnwyr i’r rhai a helpodd y tu ôl i’r llenni, mae eich amser, eich egni a’ch ymroddiad yn gwneud digwyddiadau fel hyn yn bosibl. Diolch i chi am eich cyfraniad gwerthfawr i’r clwb a’n cymuned.

© 2023 gan Ian Edwards

  • Facebook
  • Twitter
bottom of page