top of page

Rasio'r Trên

Bob blwyddyn rydym yn cynnal “Ras Trên yr Ucheldir”, ras 5km o orsaf Dinas i orsaf Caernarfon.

 

22/07/2026

Mae’r trên yn gadael gorsaf Dinas am 8pm (ac felly hefyd y rhedwyr)

*opsiwn i gymryd y trên o Gaernarfon i Dinas am 7:30pm

 

 

£10 Cysylltiedig / £12 Anghysylltiedig

Mynediadau cyfyngedig

Dim cofrestru ar y noson / Rhifau ddim yn drosglwyddadwy​

Llechen goffa am ddim gan Inigo Jones, Groeslon​

Isafswm oedran: 12 oed ar ddiwrnod y ras

Bydd clicio ar y botwm yma'n mynd a chi at safle allanol i gofrestru 

 Nid yw Rhedwyr Eryri Harriers yn rheoli safle neu lincs TDL 

Cysylltwch â TDL os ydych yn cael trafferthion

Mae’r her 5K unffordd iconig hon wedi bod yn un o’r rasys mwyaf poblogaidd yng nghalendr rasio Gogledd Cymru ers blynyddoedd lawer.

 

Rhediad cyflym a ffyrnig ar Lôn Eifion o Orsaf Dinas i Orsaf Caernarfon.

 

Mae’r rhan fwyaf yn dechrau drwy gymryd y trên o Gaernarfon i Dinas am 7:30pm, ac yna’n rasio’n ôl pan fydd y trên (a’r gwn cychwyn) yn gadael Dinas am 8pm.

 

Record y cwrs:

  • Mathew Clowes 2012: 13m 44e

  • Bronwen Jenkinson 2017: 16m 55e

Gwobr ariannol am dorri’r record

524134901_10163949324946617_3687421552853196026_n.jpg

Gwobrau categoriau (i dynion/agored a merched):

U16; U18; U40; O40; O50; O60; O65; O70; O75

469027929_10160926989725838_2196456691086501853_n.jpg
522628835_10163949329486617_4251424786946165702_n.jpg
524308424_24106664202333712_1438725627141460396_n.jpg

Ras y Plant 

Dydy’r rhai dan 12 oed ddim yn colli allan ar yr hwyl!

Gall plant redeg ras 1.5km ar yr un cwrs o Groesfan Hendy, gan ddechrau am 7pm.

Mae’r bws yn gadael Caernarfon i’r llinell gychwyn am 6:30pm.

Côst £2 – mae hyn yn cynnwys bag o wobrau bach a llawer o hwyl!

*Uchafswm o 40 rhedwr

Cofrestrwch drwy anfon e-bost at:

eryri.harriers.races@gmail.com 

  • Enw'r plentyn

  • Dyddiad geni

  • Enw Clwb (os yn berthnasol) 

  • Enw a manylion cyswllt rhiant

Trefnydd y râs ar rhan Rhedwyr Eryri Harriers: Mike Blake

Mewn cydweithrediad a gyda diolch i:

Screenshot 2026-04-15 080040_edited.jpg
Screenshot 2026-04-15 075846_edited.jpg
Screenshot 2026-04-15 080120_edited.jpg
Screenshot 2026-04-15 080307_edited.jpg
308847535_600750088410498_8972862777462461323_n_edited.jpg

© 2023 gan Ian Edwards

  • Facebook
  • Twitter
bottom of page