Penwythnos Mawr ar y mynyddoedd a'r lonydd
- ydyffryn
- 4 days ago
- 3 min read
UTS gan UTMB yn dod a'r Byd i Eryri
Unwaith eto roedd ein hardal ni’n croesawu un o ŵyliau rhedeg mynydd mwyaf y byd wrth i redwyr o bob cwr o’r byd ddod i Eryri ar gyfer Ultra-Trail Snowdonia by UTMB.
Ymhlith y miloedd oedd yn herio’r llwybrau roedd criw cryf o Eryri Harriers, yn cynrychioli’r clwb yn falch dros sawl pellter gwahanol.
Unwaith eto dangosodd y digwyddiad nid yn unig berfformiadau elît anhygoel, ond hefyd y dyfalbarhad, y cyfeillgarwch a’r ysbryd anturus sy’n gwneud rhedeg mynydd yng Ngogledd Cymru mor arbennig. Mae llwybrau UTS 100M, 100K, 80K, 50K a 25K yn cael eu hystyried yn rhai o’r rasys anoddaf yng nghyfres UTMB World Series, felly mae cyrraedd y llinell derfyn yn gamp enfawr ynddi’i hun.
Daeth y perfformiad mwyaf trawiadol yn y UTS 100M caled iawn, lle rhedodd Rachel Sergeant ras arbennig i orffen yn 28ain yn gyffredinol, 3ydd benyw ac yn 2il yn ei chategori mewn amser gwych o 33:17:25. Cafodd ei chroesawu a’i medal ar y llinell derfyn gan ei phlant — moment emosiynol ac arbennig iawn.
Llwyddodd Ruth Metcalfe hefyd i gwblhau’r ras 100 milltir, gan orffen yn 97fed yn gyffredinol, 11eg benyw ac yn 1af yn y categori F55-59 mewn 46:19:31 — camp anhygoel dros un o’r rasys 100 milltir anoddaf yn Ewrop.
Yn y UTS 100K, cafodd Aled Jones ras gryf a chyson i orffen yn 94fed mewn 23:17:02. Roedd Nathan Price a Jordan Stanford hefyd yn brwydro’n galed cyn gorfod tynnu allan yn hwyr yn y ras. Nath Nathan hefyd rhannu top tips am bacio ar gyfer y ras yma: https://www.facebook.com/share/r/1B9keNQ4co/
Yn y UTS 80K, cafodd Nia Albiston berfformiad gwych arall, gan orffen yn 55fed yn gyffredinol, 5ed benyw ac yn 2il yn ei chategori mewn amser arbennig o 10:33:07. Llwyddodd Gavin Rogerson hefyd i orffen y cwrs heriol mewn 14:00:07.
Yn y UTS 50K, daeth Ben Shaw yn 2il yn y categori MV55 gyda rhediad gwych o 8:41:20, tra llwyddodd Iolo Owen i gwblhau’r cwrs mewn 12:12:26.
Yn y ras fyrrach ond hynod gystadleuol ERYRI 25K, roedd sawl perfformiad cryf gan aelodau’r clwb. Gorffennodd Chris Smith yn 34ain yn gyffredinol ac yn 3ydd yn ei gategori mewn 2:19:20. Roedd Jordan Collins ddim yn bell ar ei ôl yn 50fed mewn 2:24:34, tra croesodd Dafydd Evans y llinell mewn 2:38:27.
Hefyd eisiau dathlu ein Ieuan Belshaw — ultra redwr profiadol, call a gwych. Penderfynodd dynnu allan yn hwyr yn y ras er mwyn amddiffyn ambell anaf bach oedd yn parhau. Gwers dda i ni gyd weithiau fod meddwl yn hir dymor a galw hi’n ddiwrnod weithiau yn gallu helpu ni fynd ymhellach yn y dyfodol.

Llongyfarchiadau mawr i bawb fu’n rhedeg, cefnogi, marsialu neu helpu tu ôl i’r llenni dros benwythnos bythgofiadwy arall ar y llwybrau
Sesiwn Breathworks Arbennig yn Llwyddiant Mawr
Daeth aelodau ynghyd yn ddiweddar ar drac Treborth ar gyfer sesiwn arbennig ar anadlu a rhedeg gyda David “Jacko” Jackson o Pro Breathwork.
Roedd y sesiwn yn edrych ar sut gall anadlu effeithio’n uniongyrchol ar berfformiad rhedeg, adferiad, ffocws a lles, gyda sesiynau ymarferol ar y trac ac o dan do. O edrych ar yr adborth, roedd y sesiwn yn llwyddiant ysgubol — ac efallai’n bwysicaf oll, fe wnaeth aelodau ddarganfod bod anadlu wir yn eitha pwysig wrth redeg!
Mae adroddiad llawn o’r sesiwn ar wefan y clwb, https://www.eryriharriers.org.uk/post/sesiwn-arbennig-i-aelodau-special-session-for-members-breathworks-gyda-jacko ac oherwydd y galw mawr mae sesiwn arall eisoes wedi’i threfnu ar gyfer mis Medi.
Canlyniadau Gwych yn Ras y Gader
Roedd perfformiadau arbennig gan aelodau’r clwb yn Ras y Gader mewn amodau anodd iawn, gyda 289 yn gorffen y ras fynydd glasurol o amgylch Cadair Idris.

Llongyfarchiadau arbennig i:
Keiran Cattanach – 2il yn gyffredinol
Mike Whyatt – 1af MV60 a 27ain yn gyffredinol
Efa Baines – 1af U23 a 2il benyw
Jackie Lee – 1af FV50 a 4ydd benyw
Miranda Grant Roberts – 1af FV40 a 5ed benyw
Mabli Baines – wedi’i huwchraddio i 1af U23
Perfformiad arbennig arall gan athletwyr Eryri dros sawl categori yn un o rasys clasurol calendr rhedeg mynydd Cymru.
Hanner Marathon Caer
Daeth perfformiadau cryf eraill ar y ffordd yn Hanner Marathon Essar Caer, lle roedd chwe aelod o Eryri Harriers ymhlith dros 7,000 o redwyr oedd yn gorffen.

Dan Rodrigues oedd y cyntaf o’r clwb adref, ac wedyn:
Andy Savage
Iolo Roberts
Robin Emyr Jones (llongyfarchiadau ar y PB!)
Rhys ab Elwyn (chwedl y clwb)
Sion Rhys Jones
Da iawn i bawb fu’n rasio, cefnogi a chynrychioli’r clwb dros benwythnos hynod o brysur a llwyddiannus arall.
DA NI ANGEN CHI!
Rhannwch eich lluniau a newyddion er mwyn i ni gallu dathlu pob un aelod!





















Comments