Trofeo Vanoni 2026
A blog by Siôn Morgan Edwards
Nodyn gan y golygydd: Daeth Siôn at aelod o’r pwyllgor i ofyn am y posibilrwydd i’r clwb ei gefnogi tîm o rhedwyr Eryri i fynd i Morbegno, yn llythrennol o fewn awr i orffen Râs Wyddfa! Heb unrhyw amheuaeth, roedd yn rhywbeth yr oeddem am fuddsoddi ynddo a’i gefnogi. Rydym yn hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi’r tîm hwn ac yn ddiolchgar iawn i Siôn am arwain y ffordd. Gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny eto’r flwyddyn nesaf. Drosodd at Siôn.........
Y tro cyntaf i mi glywed am Morbegno oedd yn 2011, wrth i mi wrthod cynnig i berfformio gyda band yno. Pan ddychwelodd y band, roeddwn yn genfigenus wrth glywed straeon am y dref sydd wedi’i gefeillio â Llanberis.
Fast forward i linell derfyn Ras Tri Chopa 2019, cynnig arall, doedd dim angen pendroni, ac ers hynny rwyf wedi cipio unrhyw gyfle i ddychwelyd ar gyfer y ras gyfnewid chwedlonol, Trofeo Vanoni.
Bore Sadwrn (diwrnod cyn y ras), roedd Owain, Ieuan, Mared a Siwan (fy ngwraig) eisioes wedi bod allan am recce o’r cwrs. Roeddwn i chydig yn hwyrach yn cychwyn a felly, cytunais i dywys hogia Hebog ar y gylchdaith o heol Vanoni a fyny i Arzo. Wrth redeg lawr am La Bottega, ein man cyfarfod arferol roedd criw arall o redwyr yn gorffen eu recce. Yn arwain roedd gwyneb cyfarwydd Paddy Conroy a oedd mewn fest Eryri!
Mae’r brodyr Ian a Paddy Conroy o Ddulyn yn rhedeg i glwb Horwich. Ffrindiau i glwb Eryri sydd mor driw i Trofeo Vanoni ac ydynt i Ras yr Wyddfa.

Ymlaen gyda’r recce. Roedd fy nghoesau fel plwm ar y ddringfa gyntaf, ond doeddwn ddim eisiau dangos fy ngwendid. Meddyliais, sut tybed oedd Owain Williams yn teimlo? Ddoe, roedd o wedi rhedeg 50km dros y pass o San Giovanni i Morbegno! Er ein bod wedi teithio i ogledd yr Eidal i gystadlu yn erbyn bron i 170 o dimau , ein prif nôd fyddai curo Hebog!
Mae’r cwrs 7.25km wedi’i farcio’n drwyadl ac yn hawdd i’w ddilyn gyda un prif linell a all arbed eiliad neu ddau gwerthfawr. Rhaid bod yn ddewr i fentro’r linell yma dros gopa maen mawr mwdlyd.
Hwyrach yn y dydd roedd hi’n amser cofrestru cyn yr orymdaith trwy’r dref. Gwelir ymdrech a haelioni anhygoel y trefnwyr yma. Roedd bag wedi’i pharatoi i bob un o’r cystadleuwyr a hwnnw’n llawn dop o roddion: Caws, Cigoedd, Llefrith, Llyfrau, Cwpan a Gwin arbennig y ras wrth gwrs! Rhaid bod hi wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus ym mherllannoedd yr ardal. Daeth pawb allan o’r cofrestru gyda Afal rhwng eu dannedd a 2 neu 3 yn eu pocedi. Daeth fy mab hynnaf Cybi ar draws y piazza yn wen o glust i glust gyda llond bocs o ‘fala cochion.
Roedd bwrlwm ar gychwyn yr orymdaith, gyda rhedwyr Cymraeg, Eidaleg a Phrydeinig yn cyfarch eu gilydd a rhannu sgwrs. Daeth trefnwraig y ras; Cristina mewn un swydd i nol ein tîm a’n tywys i gyfarfod â swyddogion pwysig y dref. Yn anffodus, tydi fy Eidaleg ddim y gorau, ond ymdrechais i’w cyfarch a’u diolch. Roeddent mor falch o glywed cysylltiad teuluol Ieuan gyda’r ras ac roeddwn i’n falch o gael gwagio fy mhoced o’r teisennau cri’ oeddwn wedi bod yn gario i Cristina.
Ar ben yr orymdaith mae seremoni teimladwy, gyda aelodau’r homeguard mynyddig, y gweinidog lleol a’r band pres yn gwneud eu pwt dan gysgod baneri ardaloedd y tîmau.



Bosib bod Morbegno yn hen fasiwn….mewn ffordd dda: Tref prysur yn llawn siopau a bwytâi, pobl yn sgwrsio gyda phrin neb a’u pennau yn eu ffonau, clwb ieuenctid ar y stryd fawr a theimlad fod y gymuned yn cŷd dynnu wrth drefnu’r digwyddiad. Ar y llaw arall, peth diweddar yw ras gyfnewid i’r merched a tydi nhw dal ddim yn cael rhedeg cwrs llawn y dynion!
Bore’r ras roeddem i gyd allan ar y bryn i gefnogi’r merched. Doedd dim tîm Eryri yn anffodus ond roedd perfformiadau rhagorol gan dimau Râs yr Wyddfa, Gogledd Cymru a Hebog. Roeddwn mor falch o weld Siwan fy ngwraig yn cystadlu ac yn gwenu yr holl ffordd. Hynny er i mi ei chofrestru heb iddi wybod! Hefyd, roedd ei chefnogi hi yn tawelu fy mhryderon i am y ras!
Râs y Mercher:
Tîm Râs Wyddfa: 1af (Hannah Russell 22:49, Eden O'Dea 23:48 — Total 46:32)
Gogledd Cymru: 10fed (Josephine Hurst 25:46, Martha Owen 25:21 — Total 51:08)
Hebog: 28ail (Mared Llywelyn 28:45, Siwan Edwards 32:35 — Total 1:01:20)
Ein twrn ni wan a roedd cynllun pendant mewn lle:
1. Sub-10 munud lawr
2. Curo Hebog.
Mae Math Roberts yn coladu amseroedd unrhyw redwr o Brydain sy’n gallu rhedeg disgynfa’r cwrs mewn llai na 10 munud. Llynedd roeddwn i’n 10:02!
Roedd yn rhaid peidio chwthu’r coesau ar y ddringfa cyntaf serth! Ar ergyd y gwn roedd y cymal cyntaf ar hyd strydoedd Morbegno yn gyflym fel arfer. Un o’r ceffylau blaen, oedd aelod Eryri Tom Wood yn rhedeg mewn vest Gogledd Cymru. Roedd Math Roberts o fy mlaen hefyd. Fyny Via San Marco, coesau’n teimlo’n dda! O’r môr o redwyr o bob man rhwng Mecsico a San Marino, roeddwn i’n sownd rhwng Tan y Foel a Thudweiliog (Math o fy mlaen ac Elis Hebog y tu cefn).

Pawen lawen gan Cybi a Robin ar y darn mwyaf serth cyn troi i gyfeiriad y lôn wrth y gofeb! Pen lawr yma, mae sŵn y dorf yn fyddarol, ond dwi’n ymdopi’n well na’r arfer. Mae hi’n nol a mlaen yma rhwng fi a Math, ond wrth gamu i’r tarmac, mae Ieuan yno ac yn gweithio fel “pacer” ar hyd y lôn am Barnaba. Rhaid rhoi fy nwylo ar fy nghoesau a cherdded ychydig gamau ar y ddringfa serth trwy’r coed a mae’r rhythm yn setlo wrth ddringo am Arzo
Rydym yn rhedeg fel tîm vets yma, ac mae profiad vet arall; Rob Hope yn cael y gorau ohonai ar y ddringfa. Toeddwn ddim yn ffyddiog y byddwn ni ddigon cryf i guro ei dîm vets o sydd hefyd yn cynnwys Gavin Roberts a Grant Cunliffe ond yn hapus fy mod yn cynyddu’r bwlch rhwg Eryri a Hebog.

Y gobaith oedd cyrraedd copa’r cwrs mewn 24 munud. Fel arfer ar y rhan yma, mae’r plant lleol i’w clywed yn ceisio dweud fy enw wrth iddynt ddarllen o restr. Heddiw, roeddwn i yng nghwmni un o arwyr lleol CSI Morbegno, Marco Leoni. DAI MARCO! DAI MARCO! Oedd yr unig floedd i’w glywed.
Ar draws y llwybr gwastad cyflym i Arzo roedd tystiolaeth pellach bod Morbegno’n raddol foderneiddio. Yn hytrach na’r chainsaws 2 stroke swnllyd sydd gan y cefnogwyr yn arferol, roedd un o’r hogia lleol yn rhoi hwb i’r rhedwyr gyda chwthwr dail trydanol Dewalt!
Croesi rhiniog y mat amseru. 24:33 ish. Os fedrai ddod lawr mewn 10 munud, byddaf yn cael PR. Fedraim gwneud gwell na hynny.
Brên off brêcs off a lawr y chwyrligwgan am Morbegno. Heibio Rob Hope ac un o aelodau rhyngwladol yr Alban. Y linell dros y garreg fawr yn talu ar ei ganfed!
DAI MARCO! DAI MARCO! Y bloeddio’n mynd fyny at 11 wrth i ni nesau at uchafbwynt y ras! Y naid! Dwi’n dynn ar sodlau Marco wrth hedfan dros y llwybr garw tuag at fynediad lletwydd y naid. Wrth droi, mae Marco yn llithro ac yn bownsio oddi ar ei frest dros y naid i’r gwair islaw. Dwi’n dychryn ac yn arafu chydig. “Iawn met?” Ydi’r unig eiriau dwi’n gallu cael allan. Rhywsut mae’n codi i’w draed ac yn fy nghuro ar draws y gwair i’r lôn. Mae’n brwydro’n galed ond dwi’n ei basio ar ol gweld Siwan a’r hogia unwaith eto.
Dylai Marco di mynd i Crib Goch i gael par o Ronhills. Perffaith ar gyfer y cwrs, oedd yn sych iawn eleni.

Mae gweddill y cwrs yn gyflym iawn ac rwyn croesi’r linell mewn 34:33. Amser y ddisgynfa o Arzo yn 10:00:4!! Dim ots, dwi’n taro llaw Owain Williams ac yn disgyn ar y ffens i ddal fy ngwynt.
Er bod Owain wedi rhedeg 50km dau ddiwrnod yn ol!
Mae’n edrych yn gryf wrth iddo garlamu ar hyd heol Vanoni.

Mae Owain yn redwr amryddawn ac mae unrhyw un sydd wedi rasio yn ei erbyn yn gwybod pa mor chwim ydi o, yn enwedig lawr allt.! `
Un o fy hoff bethau am y ras gyfnewid yma, yw’r ffaith eich bod yn gallu mynd yn syth allan ar y cwrs i gefnogi eich cyd-redwyr a dyma dwi’n wneud ar ol gwrthod potel o gwrw gan Paddy Conroy (tro cyntaf am bob dim).

Mae llwch yn tasgu o Ronhills Ows wrth iddo garlamu o’r copa at ein trydydd rhedwr Ieuan mewn 9:47!!! Mae’n cyfnewid gyda Ieu mewn 35:23. Amser da iawn ac yn ein cadw 72 eiliad o flaen Hebog!

Wedi i Ieuan gael ei anafu yn ddiweddar roeddem mor falch ei fod o wedi gallu mynychu’r ras. Mae’n dangos ei gryfder ac yn brwydro i’r copa mewn 26 munud, ond, hed hebog fel dart yn Arzo, ac mae Rhys yn ei basio.


Mae Ieuan yn gorffen yn gryf gan roi cyfanswm amser o 1:48:28. Digon da ar gyfer 3ydd veterans a lle ar y podiwm yn y seremoni wobrwyo!

Llongyfarchiadau mawr iawn hefyd i ffrindiau ac aelodau Eryri oedd yn rhedeg i dimau eraill. Yn nodweddiadol oedd carfan Gogledd Cymru gyda Tom Wood ar y blaen yn gorffen yn 8fed!
Wedi’r gwobrwyo, roedd hi’n amser dathlu! Roedd bwyty San Giovanni yn llawn o redwyr Cymraeg a Phrydeinig. Mae’r Pasta lleol Pizzochieri yn arbennig o dda yma, just y peth cyn ymuno a’r parti ym mar TNT.
Roedd y tim buddugol SA Valchiese yn dathlu r’un mor galed ac oeddent wedi rhedeg yn y ras. Pob tro oedd rhedwr neu dîm yn cyrraedd y parti, roedd bloeddio, cymeradwyo a limoncello yn llifo. Dwi’n ama dim mai Arwel Lewis gafodd y gymeradwyaeth fwyaf! Roedd rhaid ni brofi ein bod yn gystal cantorion a’r Eidalwyr ac felly penderfynodd Gavin Roberts arwain côr rhedwyr mynydd Cymru! Noson o ddathlu a wneith aros yn y côf dwi’n siwr! Clo perffaith i benwythnos o rasio arbennig.


Dwi’n ddiolchgar iawn i bwyllgor Eryri am gymeradwyo cais i yrru tîm i Trofeo Vanoni a chadw’r cysylltiad rhwng ein clwb a Morbegno yn fyw. Gobeithaf yn byddaf yn dychwelyd eto i gnocio 0.4 eiliad oddi ar fy amser…….
Diolch eto i Siôn am y blog arbennig hwn. Gan fod y stori mor wych, rwy’n siŵr y bydd mwy a mwy o aelodau’r clwb yn awyddus i fynd y flwyddyn nesaf.
Yn draddodiadol, mae'r tîm (neu'r timau) eu dewis yn ôl safle aelodau’r clwb yn Râs Wyddfa. Os nad yw rhywun am gymryd y lle, bydd yn cael ei gynnig i’r rhedwr nesaf ar y rhestr. Felly os ydych chi eisiau’r cyfle hwnnw, ewch ati ar Lwybr Llanberis a daliwch ati i hyfforddi! Beth am greu grwpiau hyfforddi, ymarfer a chefnogi eich gilydd ar hyd y daith? Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch. Mae’r clwb am barhau i roi yn ôl a chefnogi ein haelodau i gael profiadau anhygoel fel hyn.



Comments